Education ENGCYM Welcome to the Lampeter and District Beekeepers’ education pages. Our aim is to raise awareness and understanding of the honey bee, promote good husbandry techniques and improve the environment in which the honey bee exists. We run beekeeping events / courses at various times of the year aimed at a range of experience levels from complete beginners to the more experienced beekeepers. In addition to the beekeeping theory, we offer practical beekeeping sessions throughout the active season. We also have a program of talks and presentations throughout the winter months at our monthly meetings. Use the menu above to explore more and come back to check regularly to keep up to date. Enjoy beekeeping! Croeso i dudalennau addysg Cymdeithas Gwenynwyr Llambed a’r Cylch. Ein nod yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r wenynen fêl, hyrwyddo technegau hwsmonaeth da a gwella’r amgylchedd y mae’r wenynen fêl yn bodoli ynddo. Cynhaliwn digwyddiadau/cyrsiau gyrsiau cadw gwenyn ar amryw adegau o’r flwyddyn sydd wedi’u hanelu at ystod o lefelau profiad o ddechreuwyr llwyr i’r gwenynwyr mwy profiadol. Yn ogystal â’r theori cadw gwenyn, cynigiwn sesiynau ymarferol yng ngwenynfa’n trwy’r tymor gweithgar. Mae gennym raglen o sgyrsiau a chyflwyniadau hefyd trwy gydol misoedd y gaeaf yn ein cyfarfodydd misol. Defnyddiwch y ddewislen uchod i archwilio mwy a dewch yn ôl i wirio’n rheolaidd i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Mwynhewch gadw gwenyn! What is the best way to start keeping Bees ? ENGCYM The best way to get involved with bees and beekeeping is through your local beekeepers’ association. You can find out about bees, get to wear the suits and even handle some bees before you take the plunge, spend money on hives and equipment and set up your own colony. You can find out if beekeeping really is for you and what’s really involved and you’ll get invaluable support and advice from other members. If you live in the Lampeter area, you may be interested in attending our next Beginners’ Course. You will find details of beekeepers’ associations in other areas of Wales via the Welsh Beekeepers Association and in England via the British Beekeepers’ Association. Sut mae dechrau cadw gwenyn? Y ffordd orau o ymhél â gwenyn a chadw gwenyn yw trwy’ch cymdeithas gwenynwyr lleol. Gallwch ddod i wybod am wenyn, gwisgo’r siwtiau a hyd yn oed trin a thrafod rhai gwenyn cyn ichi gymryd y cam mawr, gwario arian ar gychod gwenyn a chyfarpar a sefydlu’ch nythfa eich hun. Gallwch ddarganfod ydy cadw gwenyn yn gweddu i chi a beth sydd ynghlwm mewn gwirionedd a byddwch yn cael cefnogaeth a chyngor amhrisiadwy gan aelodau eraill. Byddwch yn gweld manylion cymdeithasau gwenynwyr mewn ardaloedd eraill o Gymru trwy Gymdeithas Gwenynwyr Cymru http://www.wbka.com ac yn Lloegr trwy Gymdeithas Gwenynwyr Prydain https://www.bbka.org.uk. What do I do if I have found a swarm? ENGCYM Think you have a swarm? Before contacting us: Step 1: Confirm that you have a honey bee swarm and not other insects such as bumblebees or wasps. Swarms come in all shapes and sizes. See our swarm help pages for illustrations. Step 2: If you are in the Lampeter area, please contact our Swarm Control Officer Steve Dart on 07429 205040. Steve will organise for one of our swarm catchers in your area to come and deal with the swarm. Please be aware that not all swarms will be readily accessible and action can only be taken when a suitable on-site risk assessment has been carried out. Please understand that we are all volunteers, and may not always be available, but please leave a message and we will contact you as soon as we can. Step 3: If you are in the Aberystwyth Area please contact the Aberystwyth Beekeepers’ Association on 01970 832359. If you are in the Cardigan area, please contact the Teifiside Beekeepers’ Association on 01545 590515. For other areas of Wales, you will find details on the Welsh Beekeepers’ Association website. If you don’t think they are honeybees, more guidance is available from the BBKA to help you identify the insects. Alternatively, in an emergency, or for help dealing with a wasp nest, you can contact your local authority’s Environmental Health department and ask for pest control. Beth ddylwn i ei wneud os gwelaf haid o wenyn? Fel rheol, mae gwenyn mêl yn heidio yn y tymor gweithgar ac er y byddant yn ymgartrefu ar lwyn neu goeden fel rheol, gallant ymgartrefu ar bron unrhyw beth – mainc bicnic er enghraifft. Fel rheol, ymddangosant yn ystod diwedd y bore neu’n gynnar yn y prynhawn ar ddiwrnodau cynnes, sych a rhydd o wynt. Ni fydd haid yn achosi unrhyw niwed o adael llonydd iddi. Nid oes ganddynt ddeoraid i’w diogelu ac maen nhw newydd fwyta pryd mawr o fêl i’w cadw i fynd am rai dyddiau. Os gwelwch haid, bydd gwenynwyr lleol yn hapus i’w casglu’n rhad ac am ddim fel rheol. Byddwch yn ymwybodol na fydd modd mynd at bob haid yn rhwydd a gellir ond cymryd camau ar ôl i asesiad risg addas gael ei gyflawni ar y safle. Os gwelwch haid yn ardal Llambed, cysylltwch â’n Cydlynydd Heidiau Steve Dart ar 07429 205040. Bydd yn trefnu i un o’n “dalwyr heidiau” yn eich ardal ddod i ddelio â’r haid. Os gwelwch haid yn ardal Aberystwyth, cysylltwch ag Ann Ovens o Gymdeithas Gwenynwyr Aberystwyth ar 01970 832359. Os gwelwch haid yn ardal Aberteifi, cysylltwch â John Page o Gymdeithas Gwenynwyr Glannau Teifi ar 01545 590515. Fel arall, fe welwch fanylion cymdeithas gwenynwyr mewn ardaloedd eraill o Gymru ar wefan Cymdeithas Gwenynwyr Cymru http://www.wbka.com Neu, mewn argyfwng, neu i gael help wrth ddelio â nyth gwenyn meirch, gallwch gysylltu ag adran Iechyd yr Amgylchedd eich awdurdod lleol a gofyn am yr adran rheoli pla.